Rhybudd preifatrwydd
Rydym wedi ymrwymo i barchu eich preifatrwydd ac amddiffyn eich gwybodaeth bersonol (data) yn unol â'r deddfau diogelu data cyfredol. Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn esbonio sut rydym yn casglu ac yn defnyddio'ch data personol ac yn dweud wrthych am eich hawliau preifatrwydd.
Rydym wedi rhannu'r wybodaeth yn adrannau fel y gallwch chi glicio drwodd i'r meysydd sydd eu hangen arnoch chi.
Mae'r hysbysiad hwn yn esbonio sut yr ydym ni, Royal Mail Group Limited, yn defnyddio'ch data personol. Mae data personol yn wybodaeth sy'n ymwneud â pherson sydd wedi, neu y gellid, ei adnabod ohoni. Gall enghreifftiau gynnwys enw, cyfeiriad, cyfeiriad e-bost a manylion personol eraill. Mae Royal Mail Group Limited yn cynnwys busnesau'r Post Brenhinol a Parcelforce Worldwide. Mae’ch data personol a ddefnyddiwn yn cynnwys:
• manylion rydym yn eu casglu amdanoch pan ddefnyddiwch ein gwefannau a'n hapiau
• gwybodaeth a ddarperir pan fyddwch yn defnyddio neu'n derbyn ein gwasanaethau, a
• gwybodaeth a dderbyniwn o ffynonellau eraill.
Fel rheol, ni fydd y ‘rheolydd data’ sy’n gyfrifol am sut a pham y defnyddir data personol. Efallai y byddwn weithiau’n defnyddio data personol ar ran sefydliad arall, fel ‘prosesydd data’ y sefydliad hwnnw. Yn yr achos hwn, bydd y sefydliad arall hwnnw'n egluro sut y gellid defnyddio'ch data personol.
Ein cyfeiriad yw:
Royal Mail Group Limited
100 Victoria Embankment
Llundain
EC4Y 0HQ.
Pan fyddwch chi'n defnyddio neu'n derbyn ein cynhyrchion neu wasanaethau, weithiau bydd angen i ni roi gwybodaeth ychwanegol i chi am sut y byddwn ni'n defnyddio'ch data personol. Dylech ddarllen yr hysbysiad preifatrwydd hwn gydag unrhyw rybudd neu wybodaeth arall a ddarparwn.
Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn berthnasol os ydych chi'n defnyddio unrhyw un o'n cynhyrchion neu wasanaethau. Mae hyn yn cynnwys defnyddio unrhyw un o'n gwefannau (megis royalmail.com, royalmailgroup.com neu parcelforce.com) neu apiau. Mae'r polisi hwn hefyd yn berthnasol os byddwch chi'n cysylltu â ni neu os ydym yn cysylltu â chi ynglŷn â'n gwasanaethau trwy'r post, ffôn, e-bost, neges destun, hysbysiadau gwthio (negeseuon awtomatig a anfonir gan apiau) neu ddulliau eraill (gan gynnwys postiadau ar wefannau a phlatfformau cyfryngau cymdeithasol).
Rydym yn defnyddio gwahanol fathau o ddata personol. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth rydych chi'n ei rhoi i ni a gwybodaeth rydym yn ei chreu wrth ddarparu gwasanaethau i chi neu gwsmeriaid eraill neu os ydych chi'n rhyngweithio â ni mewn ffyrdd eraill (er enghraifft, os ydych chi'n danfon nwyddau i ni). Gall hefyd gynnwys gwybodaeth a roddwch i ni am berson arall.
Mae'r tabl isod yn rhoi rhagor o fanylion am y data personol rydym yn eu defnyddio a sut rydym yn eu cael.
Mathau o Ddata | Beth maent yn ei gynnwys | O ble rydym yn eu cael |
---|---|---|
Eich Data Hunaniaeth a Chyswllt |
Mae hyn yn cynnwys: Gall hefyd gynnwys dynodwyr eraill megis: Os ydych chi'n gweithio i un o'n cwsmeriaid busnes, byddwn yn cofnodi: Os ydych chi'n gweithio i sefydliad sy'n cyflenwi gwasanaethau i ni neu'n gweithio gyda ni, byddwn hefyd yn cofnodi: Efallai y byddwn hefyd yn casglu gwybodaeth gyswllt plant sy'n defnyddio neu'n derbyn ein gwasanaethau. |
Rydych chi'n darparu'r wybodaeth hon pryd bynnag rydych chi’n: Os ydych chi'n cyrchu ein gwasanaethau trwy seinydd clyfar neu dechnoleg debyg, efallai y byddwn yn derbyn y wybodaeth hon gan y cwmni sy'n darparu'r dechnoleg honno. Efallai y byddwn yn casglu data plant os yw'r plentyn wedi'i gynnwys yn eich cais am ein gwasanaeth Ailgyfeirio, mae rhywun yn anfon llythyr neu barsel i blentyn, neu os yw plentyn yn defnyddio un o'n gwasanaethau. Mae hyn yn cynnwys pan fydd plant yn anfon llythyrau at Siôn Corn, naill ai o'u cartref neu'r ysgol. |
Manylion ariannol | Mae hyn yn cynnwys: • cofnodion o gostau'r cynhyrchion a'r gwasanaethau rydych chi wedi'u prynu • cofnodion o'ch taliadau, a • eich gwybodaeth ynghylch talu, megis manylion talu â cherdyn credyd neu gerdyn debyd. |
Rydych chi'n darparu'r wybodaeth hon pan ydych chi'n defnyddio ein gwasanaethau neu'n derbyn taliad. Efallai y byddwn hefyd yn derbyn y wybodaeth hon gan sefydliadau eraill megis banciau ac asiantaethau cyfeirio credyd (er enghraifft, pan ydynt yn awdurdodi taliad gennych chi neu i'n helpu i wirio pwy ydych chi). |
Dewisiadau marchnata |
Dyma'r wybodaeth sydd gennym am eich dewisiadau ar gyfer derbyn marchnata gennym. |
Rydym yn cofnodi'r wybodaeth hon pan fyddwch chi'n cysylltu â ni (er enghraifft, pan fyddwch chi'n gwneud cais am un o'n gwasanaethau neu'n cofrestru gydag un o'n gwefannau). Gallwch chi ddiweddaru'ch dewisiadau marchnata ar unrhyw adeg. |
Cofnodion cwsmeriaid | Dyma ein cofnod o'r cynhyrchion a'r gwasanaethau rydych chi wedi'u defnyddio, gan gynnwys: • cofnodion o lythyrau a pharseli rydych chi wedi'u hanfon, os oes gennych chi gyfrif gyda ni, neu • yr enw a'r cyfeiriad a roddoch chi fel anfonwr llythyr neu barsel. |
Rydych chi'n darparu llawer o'r wybodaeth hon pan ydych chi'n defnyddio ein gwasanaethau. Byddwn hefyd yn cofnodi'r wybodaeth hon wrth ddarparu ein gwasanaethau. |
Hanes cyfeiriad | Dyma'ch hen gyfeiriad a'ch cyfeiriad newydd pan ydych chi'n trefnu gwasanaeth Ailgyfeirio. | Rydych chi'n darparu'r wybodaeth hon fel rhan o'ch cais am y gwasanaeth Ailgyfeirio. Efallai y byddwn hefyd yn derbyn y wybodaeth hon gan rywun arall yn eich cartref os ydynt yn gwneud cais am y gwasanaeth. |
Manylion eraill ynghylch Cyfeiriad |
Mewn achosion cyfyngedig, gall cyfeiriad danfon gynnwys data personol (er enghraifft, os yw enw tŷ yn cynnwys cyfenw'r meddiannydd). Mae rheoliadau Ofcom yn nodi nad oes rhaid i ni ddanfon eitemau i rai cyfeiriadau, na chasglu eitemau ohonynt. Rydym yn cadw cofnodion o'r cyfeiriadau hyn a'r rhesymau pam nad yw ein rhwymedigaethau arferol yn berthnasol |
Efallai y byddwn yn derbyn y manylion cyfeiriad hyn gennych chi neu gan awdurdod lleol. |
Hanes cyswllt a chofnodion ymholiadau, cwynion a hawliadau |
Mae'r rhain yn fanylion unrhyw ymholiad, cwyn neu hawliad rydych chi wedi'i wneud i ni. Gall y manylion gynnwys:
|
Rydych chi'n darparu rhywfaint o'r wybodaeth hon pan ydych chi'n gwneud eich ymholiad, cwyn neu hawliad. Byddwn hefyd yn cofnodi rhywfaint o wybodaeth wrth ddelio â'r mater. |
Gwybodaeth ynghylch prawf o ddanfon | Cofnodion danfon yw'r rhain, gan gynnwys enw a chyfeiriad y person sy'n derbyn danfoniad eitem ac unrhyw lofnod y mae'r person hwnnw'n ei roi i ni. | Rydych chi'n darparu'r wybodaeth hon pan ydych chi'n derbyn danfoniad eitem, gan gynnwys pan ydych chi'n derbyn danfoniad eitem i rywun arall |
Manylion cludo rhyngwladol | Dyma wybodaeth sy'n ymwneud â llythyrau a pharseli rhyngwladol. Mae'n cynnwys: • enw a chyfeiriad y sawl sy'n anfon yr eitem • enw a chyfeiriad y person sy'n derbyn yr eitem, a • manylion cynnwys yr eitem. |
Efallai y byddwn yn derbyn y wybodaeth hon gan awdurdodau post neu gludwyr tramor pan fyddwch chi'n derbyn llythyr neu barsel o dramor. Os byddwch yn anfon llythyr neu barsel dramor, efallai y bydd angen i chi roi'r wybodaeth hon inni at ddibenion danfon, at ddibenion tollau a threthi, neu sgrinio diogelwch. |
Gwybodaeth am y derbynnydd |
Mae hyn yn cynnwys cofnodion llythyrau neu barseli a ddanfonwyd i chi a'r gwasanaethau a ddefnyddir gan yr anfonwr. Rydym yn defnyddio'ch enw a'ch cyfeiriad i gasglu, didoli, olrhain a danfon eitemau i chi. Efallai y bydd yr anfonwr hefyd yn rhoi gwybodaeth gyswllt arall i ni, megis eich rhif ffôn neu gyfeiriad e-bost, fel y gallwn eich galluogi i olrhain eich dosbarthiad. |
Rydym yn derbyn y wybodaeth hon gan yr anfonwr neu'n ei chasglu o'r manylion sydd ynghlwm wrth du allan llythyrau a pharseli yn ein rhwydwaith. Efallai y byddwn hefyd yn derbyn y wybodaeth hon gan awdurdodau post tramor neu gludwyr os anfonir yr eitem atoch o dramor. |
Recordiadau ohonoch chi |
Mae'r rhain yn cynnwys: |
Efallai y byddwn yn recordio delweddau ohonoch os ymwelwch â lleoliad lle mae teledu cylch cyfyng. Efallai y byddwn hefyd yn recordio galwadau ffôn rhyngoch chi a ni. |
Delweddau ohonoch chi neu'r lleoliadau dosbarthu o'ch dewis | Mae'r rhain yn cynnwys: • lluniau ohonoch chi neu bobl eraill (er enghraifft, os yw delwedd yn cael ei lanlwytho i'w hargraffu ar gynnyrch neu stamp), a • lluniau o leoliadau danfon |
Efallai y byddwch chi neu bobl eraill yn anfon y delweddau hyn atom. Efallai y byddwn hefyd yn tynnu lluniau o leoliadau rydych chi wedi'u nodi fel rhai diogel i ni ddosbarthu parseli iddynt. |
Prawf Oedran | Mae hwn yn gofnod o unrhyw wiriadau oedran a gynhaliwyd pan na ellir danfon eitemau i bobl o dan oedran penodol. | Efallai y byddwn yn gwneud cofnod eich bod yn diwallu'r gofynion oedran ar gyfer eitem yr ydym wedi'i dosbarthu. |
Gwerthwyr Ar-lein | Mae rhai o'n gwasanaethau yn golygu bod gennym fynediad i'ch cyfrif gyda gwerthwyr ar-lein neu wefannau eraill. | Os byddwch yn rhoi caniatâd i ni gyrchu manylion eich cyfrif, byddwn yn derbyn data gennych chi, y wefan neu'r ddau. |
O dan y gyfraith diogelu data, dim ond os oes gennym ‘sail gyfreithiol’ (rheswm cyfreithiol dilys) dros wneud hynny y gallwn ddefnyddio eich data personol. Mae'r tabl isod yn nodi ac yn egluro pob sail gyfreithiol rydym yn dibynnu arni a phwrpas defnyddio'ch data personol. Gallai mwy nag un sail gyfreithiol fod yn berthnasol pan ddefnyddiwn eich data personol at bwrpas penodol, felly mae'r tabl yn esbonio'r rhai perthnasol:
Pryd | Pam |
---|---|
Darparu gwasanaethau i chi pan yw contract ar waith gyda chi. Mae hyn yn cynnwys: • cymryd y camau angenrheidiol i sicrhau bod eich post yn cael ei ddanfon • anfon negeseuon a diweddariadau gwasanaeth atoch • darparu prawf postio neu ddanfon, ac • agor cyfrif i chi (gan gynnwys ar gyfer defnyddio ein hapiau). |
Contract – Mae angen i ni ddefnyddio'ch data i ddarparu'r gwasanaethau hyn i chi yn unol â'r contract hwnnw |
Darparu gwasanaethau post i chi pan ydych wedi ein talu i wneud hynny ond nad oes gennym gontract neu gytundeb ar waith gyda chi. Mae hyn yn cynnwys: Mae gan rai o’n cynhyrchion a’n gwasanaethau delerau ac amodau arbennig ac fe’u gelwir yn ‘gynlluniau’. Mae'r cynlluniau hyn yn golygu nad oes angen i ni gael contractau unigol gyda phob cwsmer sy’n defnyddio'r cynhyrchion neu'r gwasanaethau hyn. Gallwch ganfod rhagor o wybodaeth yn www.royalmail.com/non-contract-terms-and-conditions |
Buddiannau cyfreithlon - Mae angen i ni ddefnyddio'ch data i ddarparu'r gwasanaethau rydych chi wedi talu amdanynt. |
Darparu gwasanaethau post y gofynnir amdanynt gan berson neu sefydliad arall (er enghraifft, pan fydd rhywun yn anfon llythyr neu barsel atoch, byddwn yn defnyddio'ch data i'w ddosbarthu neu ei ddychwelyd, eich galluogi i'w olrhain neu ddarparu diweddariadau danfon). Mae'r gwasanaethau hyn yn cynnwys: • cymryd y camau angenrheidiol i sicrhau bod eich post yn cael ei ddanfon neu ei ddychwelyd at yr anfonwr • gwneud newidiadau i ddanfoniad wedi'i drefnu (megis yr amser neu'r pwynt dosbarthu) • cadarnhau i'r anfonwr ble a phryd y danfonwyd yr eitem • cysylltu â chi i gadarnhau a ydych wedi derbyn eitem os yw'r anfonwr yn honni efallai nad ydych wedi'i wneud, a threfnu i gasglu llythyr neu barsel gennych |
Buddiannau cyfreithlon - Mae angen i ni ddefnyddio'ch data i ddarparu'r gwasanaethau hyn |
Eich darparu â: • gwasanaethau sy'n eich galluogi i reoli danfoniadau llythyrau a pharseli • gwasanaethau sy'n eich galluogi i reoli opsiynau eraill, gan gynnwys gwneud newidiadau i ddanfoniad a drefnwyd, a • gwybodaeth am eich hanes anfon, eich cyfeiriad a'r lleoliadau rydych chi wedi edrych arnynt trwy ddefnyddio ein gwasanaethau. |
Buddiannau cyfreithlon a chydsyniad - Mae angen i ni ddefnyddio'ch data i ddarparu'r gwasanaethau hyn. Bydd telerau ac amodau'r gwasanaeth yn egluro pryd y mae angen eich caniatâd arnom i ddefnyddio'ch data at bwrpas penodol, a sut i roi'r caniatâd hwnnw |
Prosesu taliadau ac ad-daliadau ar gyfer ein gwasanaethau. | Contract - Mae angen i ni ddefnyddio'ch data i brosesu taliadau ac ad-daliadau yn unol â'n contract gyda chi. |
Cymryd camau angenrheidiol pan ydych wedi derbyn parsel ar ran rhywun arall (fel eich cymydog). Gall hyn gynnwys defnyddio'ch data i: • gwblhau'r dosbarthiad • rhoi eich manylion i'r anfonwr a'r person yr anfonwyd yr eitem ato, i roi gwybod iddynt fod gennych yr eitem, a chaniatáu i'r danfoniad gael ei olrhain yn iawn o fewn y gwasanaeth post |
Buddiannau cyfreithlon a chydsyniad - Mae angen i ni ddefnyddio'ch data i ddarparu'r gwasanaethau hyn. Bydd telerau ac amodau'r gwasanaeth yn egluro pryd y mae angen eich caniatâd arnom i ddefnyddio'ch data at bwrpas penodol, a sut i roi'r caniatâd hwnnw |
Darparu diweddariadau danfon i'r anfonwr a'r person yr anfonwyd yr eitem ato, fel rhan o'n gwasanaethau tracio ac olrhain. | Buddiannau cyfreithlon - Mae angen i ni fonitro ein gwasanaethau danfon i'w gwella a darparu gwell gwybodaeth i'n cwsmeriaid. |
Delio ag ymholiadau, cwynion neu hawliadau a rhoi cyfle i chi ddarparu adolygiadau o'n gwasanaethau. | Buddiannau cyfreithlon - Efallai y bydd angen i ni ddefnyddio'ch data i'n helpu i ddelio ag ymholiadau, cwynion neu hawliadau a godwyd gennych chi neu unrhyw un arall. |
Darparu data i gwsmeriaid busnes a Llywodraeth y DU. Mae angen i ni rannu eich data i gefnogi buddiannau cwsmeriaid busnes a Llywodraeth y DU. Mae hyn yn cynnwys: |
Buddiannau cyfreithlon - Mae gan ein cwsmeriaid busnes a Llywodraeth y DU fuddiant dilys i ddefnyddio data yn y ffyrdd hyn, ac mae gennym fuddiant dilys i'w cefnogi. |
Marchnata ein cynhyrchion a'n gwasanaethau i gwsmeriaid a chwsmeriaid posib. Gall hyn gynnwys: • cynnal cystadlaethau a hyrwyddiadau • sicrhau, pan gliciwch ar ein hysbysebion ar-lein, eich bod wedi'ch cysylltu â'r dudalen we gywir, a • gwirio pa mor effeithiol yw ein hysbysebion (er enghraifft, trwy fonitro a ydych yn lawrlwytho ein hapiau neu'n ymweld â'n gwefan ar ôl clicio ar un ohonynt). |
Buddiannau cyfreithlon a chydsyniad - Efallai y bydd angen i ni ddefnyddio'ch data i anfon gwybodaeth farchnata atoch am ein cynhyrchion a'n gwasanaethau gyda chi. Mewn rhai amgylchiadau, gofynnwn am eich caniatâd cyn anfon deunydd marchnata atoch. Mae gennych bob amser yr hawl i optio allan o dderbyn gwybodaeth farchnata a anfonir yn benodol atoch chi. Gweler adran 4 isod i gael rhagor o wybodaeth am farchnata. |
Gwella profiad ein cwsmeriaid o'n gwasanaethau a'n gwefannau. Er enghraifft, rydym yn defnyddio gwybodaeth am eich ymweliadau â'n gwefannau i'n helpu ni i ddeall sut mae gwahanol bobl yn eu defnyddio a faint o amser maent yn ei dreulio ar dudalennau penodol | Buddiannau cyfreithlon - Rydym yn defnyddio'ch data i'n helpu i ddeall sut rydych yn defnyddio ein gwasanaethau fel y gallwn eu gwella. |
Cynnal ymchwil a dadansoddi’r farchnad i wella gwasanaethau presennol a datblygu rhai newydd. Er enghraifft, efallai y byddwn yn datblygu gwasanaethau post neu ddata newydd ar gyfer cwsmeriaid busnes i'w helpu i gadw eu cronfa ddata cyfeiriadau yn gyfredol, nodi ac atal twyll a gwirio hunaniaeth, neu dargedu eu marchnata | Buddiannau cyfreithlon a rhwymedigaeth gyfreithiol - Mae angen i ni ddefnyddio'ch data i wella'r cynhyrchion a'r gwasanaethau rydym yn eu cynnig ac i ddatblygu gwasanaethau newydd i chi a chwsmeriaid eraill. Gall hyn olygu ein bod ni, neu sefydliad ymchwil i’r farchnad sy’n gweithio i ni, yn cysylltu â chi i gael adborth ar ein gwasanaethau. Mae angen i ni hefyd ddefnyddio'ch data i'n helpu ni i ddilyn rheoliadau, gan gynnwys i wirio lefelau boddhad cwsmeriaid |
Cynnal diogelwch, atal twyll a gwyngalchu arian, a chymryd camau yn erbyn twyllwyr a throseddwyr eraill. Mae hyn yn cynnwys: • nodi ac atal post sgam anghyfreithlon • defnyddio gwiriadau credyd, a • defnyddio data personol i gefnogi neu amddiffyn achos cyfreithiol, gan gynnwys fel tystiolaeth mewn achosion llys. |
Buddiannau cyfreithlon - Weithiau mae angen i ni ddefnyddio data i amddiffyn hawliau, eiddo a diogelwch personol. Gweler adran 6 isod i gael rhagor o wybodaeth am ddiogelwch ac atal twyll. |
Dibenion tollau a threthi, a sgrinio diogelwch, ar gyfer eitemau tramor. | Rhwymedigaeth gyfreithiol - Mae angen i ni ddefnyddio data personol i'n helpu i ddilyn rheoliadau cyllid a thollau ac i amddiffyn y post yn ein rhwydwaith. |
Atal a chanfod troseddau, gan gynnwys defnyddio teledu cylch cyfyng i amddiffyn ein cwsmeriaid, cyflogeion ac eiddo. |
Buddiannau cyfreithlon - Weithiau mae angen i ni ddefnyddio data personol i: Efallai y byddwn hefyd yn defnyddio'r wybodaeth hon mewn ymchwiliadau a chamau cyfreithiol sy'n gysylltiedig ag unrhyw drosedd a ganfyddir, gan gynnwys fel tystiolaeth mewn anghydfodau cyfreithiol ac achos llys. |
Atal rhannu neu brosesu data personol a gwybodaeth gyfrinachol yn anghyfreithlon neu heb awdurdod. | Buddiannau cyfreithlon - Weithiau mae angen i ni fonitro a rhwystro cyfathrebiadau rhwng ein staff ac eraill er mwyn amddiffyn diogelwch data personol a gwybodaeth gyfrinachol. |
Bodloni gofynion cyfreithiol (er enghraifft, o dan gyfraith gwasanaethau post mae'n rhaid i ni gynnal y Ffeil Cyfeiriadau Cod Post a sicrhau ei bod ar gael i bobl a sefydliadau sydd am ei defnyddio o dan delerau penodol). | Rhwymedigaeth gyfreithiol - Efallai y bydd angen i ni ddefnyddio'ch data i'n helpu i gyflawni ein cyfrifoldebau cyfreithiol a rheoliadol fel gweithredwyr post ac o dan y gyfraith iechyd a diogelwch. |
Amddiffyn ein gweithlu | Buddiannau cyfreithlon a rhwymedigaeth gyfreithiol - Efallai y bydd angen i ni ddefnyddio'ch data i'n helpu i fodloni gofynion iechyd a diogelwch a'n dyletswydd gyfreithiol i amddiffyn ein gweithlu. Mae hyn yn cynnwys nodi cyfeiriadau na fyddwn yn danfon iddynt nac yn casglu ohonynt. |
Marchnata
Hoffem gadw mewn cysylltiad â chi, trwy'r post, e-bost, ffôn, cyfryngau cymdeithasol neu ar-lein, am ein cynhyrchion, ein gwasanaethau a'n cynigion a allai fod o ddiddordeb i chi. Gallwch ddewis a ydych am dderbyn y cyfathrebiadau hyn a gallwch optio allan ar unrhyw adeg.
Mae gennym fuddiant dilys mewn hyrwyddo ein cynhyrchion a'n gwasanaethau, ond os gofynnwch i ni beidio ag anfon cyfathrebiadau marchnata atoch, ni fyddwn yn eu hanfon. Yn benodol, pan fyddwn yn casglu gwybodaeth gyswllt yr hoffem ei defnyddio i anfon deunydd marchnata atoch, byddwn yn rhoi cyfle i chi, ar yr adeg honno, i ddweud wrthym am beidio â'i hanfon.
Gwneud yn siŵr bod ein negeseuon marchnata yn berthnasol i chi
Rydym am sicrhau bod y wybodaeth rydym yn ei hanfon atoch chi am ein cynhyrchion a'n gwasanaethau yn berthnasol i chi. I wneud hyn, efallai y byddwn yn defnyddio'ch data personol i'n helpu i ddeall eich diddordebau yn well. Efallai y byddwn hefyd yn defnyddio manylion eich cyfrifiadur, gliniadur, ffôn clyfar neu lechen (gan gynnwys ei gyfeiriad IP) i wirio eich bod wedi'ch cysylltu â'r dudalen we gywir ar ôl clicio ar un o'n hysbysebion ar-lein. Os ymwelwch â'n gwefannau, efallai y byddwn hefyd yn defnyddio cwcis i ddweud wrthym pa ddeunydd marchnata i'w anfon atoch. Gweler adran 11 isod I weld gwybodaeth am gwcis.
Mae'r ymagweddau hyn yn ein helpu i wneud ein cyfathrebiadau yn fwy perthnasol a diddorol i chi. Mae edrych ar y tudalennau gwe rydych wedi ymweld â nhw a'r pethau rydych wedi'u prynu yn ein helpu ni i'ch deall fel cwsmer yn well ac yn caniatáu i ni ddarparu gwasanaethau, cynnwys, cyfathrebiadau a hysbysebu ar-lein wedi'u personoli. Efallai y byddwn hefyd yn mesur sut rydych yn ymateb i'n cyfathrebiadau marchnata i'n helpu ni i ddeall pa mor effeithiol ydynt a chynnig cynhyrchion a gwasanaethau i chi sy'n diwallu'ch anghenion yn well.
Os nad ydych am i ni bersonoli ein negeseuon marchnata i chi yn y modd hwn, gallwch optio allan o bersonoli. Os gwnewch hyn, ni fyddwn yn anfon rhagor o gyfathrebiadau marchnata atoch. Gweler adran 11 isod i ganfod rhagor am sut y gallwch reoli a ydym yn defnyddio cwcis wrth farchnata i chi.
Newid eich dewisiadau marchnata
Gallwch newid eich dewisiadau marchnata ar unrhyw adeg. Gallwch chi wneud hyn:
• ar-lein
• dros y ffôn
• defnyddio’r ddolen ‘dad-danysgrifio’ yn ein negeseuon e-bost marchnata
• trwy ateb STOP i'n negeseuon testun marchnata
• trwy ein hapiau, neu
• trwy ysgrifennu atom ar unrhyw adeg.
Os dywedwch nad ydych am dderbyn gwybodaeth farchnata gennym, bydd hyn yn eich atal rhag derbyn cynigion neu glywed am gynhyrchion eraill a allai fod o ddiddordeb i chi. Os ydych wedi cofrestru trwy ein gwefan royalmail.com, gallwch newid eich dewisiadau marchnata ar-lein ar unrhyw adeg trwy adran ‘Fy Nghyfrif’ y wefan yn www.royalmail.com/user/login.
Gall cwsmeriaid cyfrifon Parcelforce Worldwide newid eu dewisiadau drwy’r adran ‘Fy Mhroffil’ ar wefan Parcelforce Worldwide yn www.parcelforce.com/user/login.
Gallwch hefyd gysylltu â'n Tîm Hawliau Gwybodaeth a Llywodraethu (information.rights@royalmail.com) i ofyn i ni roi'r gorau i anfon e-byst marchnata, llythyrau neu fathau eraill o farchnata uniongyrchol.
Gwybodaeth am y gwasanaeth
Efallai y bydd angen i ni anfon cyfathrebiadau atoch am y gwasanaeth rydych chi'n ei ddefnyddio. Er enghraifft, rydym yn anfon cadarnhadau archebion, diweddariadau danfoniadau, anfonebau a rhybudd o newidiadau i'n telerau neu brisiau i'n cwsmeriaid.
Os dewiswch optio allan o farchnata, efallai y bydd angen i ni ddal i anfon y math hwn o wybodaeth atoch.
Dewisiadau cyfathrebu
Os dewiswch ddiffodd hysbysiadau ap ar eich ffôn, efallai y byddwch yn dal i dderbyn hysbysiadau a negeseuon gwasanaeth eraill gennym mewn ffyrdd eraill (er enghraifft, trwy neges destun, e-bost neu lythyr).
Ymchwil i'r farchnad
Rydym yn hoffi clywed eich barn oherwydd gall hyn ein helpu i wella ein cynhyrchion a'n gwasanaethau. Felly, o bryd i'w gilydd efallai y byddwn yn cysylltu â chi i gynnal ymchwil I’r farchnad neu arolwg neu ofyn i sefydliad ymchwil i’r farchnad sy'n gweithio i ni wneud hynny. Mae gennych ddewis bob amser a ydych am gymryd rhan yn ein hymchwil i’r farchnad.
Ein cyflogeion a'n hasiantau
Gall ein cyflogeion, neu asiantau sy'n gweithredu ar ein rhan, ddefnyddio'ch data at y dibenion a nodir yn adrannau 3 a 4 uchod. Er enghraifft, os byddwch yn cysylltu â ni ag ymholiad neu gŵyn, bydd aelodau o'n Tîm Gwasanaeth yn gweld eich gwybodaeth.
Cwsmeriaid
Rydym yn rhannu'ch data personol gyda'n cwsmeriaid pan rydym yn darparu gwasanaethau iddynt. Er enghraifft, os yw cwsmer wedi trefnu i eitem gael ei hanfon atoch, byddwn yn rhoi diweddariadau danfon iddynt a phrawf ei bod wedi'i danfon. Gall y prawf hwn gadarnhau ble y gwnaethom ddanfon yr eitem a dangos unrhyw lofnod a roddodd y person a dderbyniodd yr eitem i ni.
Platfformau siopa ar-lein
Os ydych chi'n prynu tâl post trwy blatfform siopa ar-lein megis eBay neu Amazon, neu os ydym yn danfon eitemau rydych chi wedi'u prynu ganddynt, efallai y byddwn yn rhannu'ch data personol gyda nhw i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am leoliad eitem a phrawf ei bod wedi'i danfon.
Sefydliadau eraill
Efallai y byddwn yn rhannu’ch data â sefydliadau eraill os yw hyn yn angenrheidiol fel rhan o ddarparu gwasanaethau i chi neu iddynt hwy. Er enghraifft, efallai y byddwn yn rhannu gwybodaeth gyda'n darparwyr technoleg a chyda Swyddfa'r Post fel y gallwch gyrchu ein gwasanaethau (er enghraifft, wrth gasglu llythyr neu barsel o'ch cangen Swyddfa'r Post leol). Os ydych yn cyrchu ein gwasanaethau trwy seinydd clyfar neu dechnoleg debyg, efallai y byddwn hefyd yn rhannu'ch data gyda'r sefydliadau sy'n darparu'r dechnoleg honno er mwyn i chi dderbyn y gwasanaethau hynny. Byddwn hefyd yn hysbysu ein darparwyr apiau pan ydych wedi lawrlwytho unrhyw un o'n hapiau.
Efallai y byddwn hefyd yn rhannu’ch data personol â sefydliadau eraill at ddibenion cyfreithiol, i atal neu ganfod trosedd, neu i amddiffyn hawliau, eiddo neu ddiogelwch rhywun. Mae'r sefydliadau hyn yn cynnwys yr heddlu, asiantaethau gorfodi’r gyfraith ac asiantaethau atal twyll. Gall hyn gynnwys dweud wrth sefydliadau eraill am gyfeiriadau na fyddwn yn danfon iddynt nac yn casglu ohonynt.
Os ydych chi'n defnyddio ein gwasanaeth Ailgyfeirio, oni bai eich bod chi'n gofyn i ni beidio, efallai y byddwn ni'n gwerthu gwybodaeth amdanoch chi weithiau i helpu sefydliadau i ddiweddaru eu manylion cyswllt, neu fel y gall mathau penodol o sefydliad anfon cynigion atoch chi y gallai fod gan bobl sy'n symud cartref ddiddordeb ynddynt. Gallwch weld rhagor o fanylion, gan gynnwys gwybodaeth ar sut y gallwch ddewis I ni beidio â gwerthu eich gwybodaeth, yn y telerau ac amodau ar gyfer ein gwasanaeth Ailgyfeirio.
Efallai y byddwn yn trosglwyddo'ch enw, manylion cyswllt (megis eich cyfeiriad e-bost), a manylion eich pryniannau gennym, i sefydliadau sy'n ein helpu ag ymchwil i'r farchnad.
Awdurdodau post a chludwyr tramor
Byddwn yn rhannu’ch data personol ag awdurdodau post a chludwyr tramor. Os ydych chi'n anfon llythyr neu barsel dramor neu'n derbyn eitem o dramor, byddwn yn darparu'r wybodaeth sy'n ofynnol at ddibenion tollau a threthi neu ar gyfer sgrinio diogelwch. Bydd y wybodaeth hon fel arfer yn cynnwys:
• enw a chyfeiriad yr anfonwr
• enw a chyfeiriad y person sy'n derbyn yr eitem, a
• manylion cynnwys yr eitem.
Gwybodaeth sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith neu reoliadau
Os yw'n ofynnol gan unrhyw gyfraith neu reoliad, gallwn rannu’ch data personol â rheolyddion megis y Comisiynydd Gwybodaeth.
Efallai y byddwn yn rhannu peth o'r data personol sydd gennym amdanoch ag asiantaethau atal twyll, a fydd yn eu defnyddio i atal twyll a gwyngalchu arian ac i gadarnhau pwy ydych chi. Os canfyddir twyll, gellir gwrthod rhai gwasanaethau, cyllid neu gyflogaeth i chi. Mae rhagor o fanylion am sut y byddwn yn defnyddio'ch gwybodaeth, yr asiantaethau atal twyll, a'ch hawliau diogelu data, i'w gweld yn
www.cifas.org.uk/fpn.
Gall Grŵp y Post Brenhinol a sefydliadau eraill hefyd ddefnyddio'ch data personol i atal twyll a gwyngalchu arian wrth, er enghraifft:
• gwirio manylion ceisiadau am gyfleusterau credyd a chredyd neu gyfleusterau eraill
• rheoli cyfrifon neu gyfleusterau sy'n gysylltiedig â chredyd
• adennill dyled
• gwirio manylion cynigion (ceisiadau) a hawliadau am bob math o yswiriant
• gwirio manylion ymgeiswyr am swyddi a chyflogeion, a
• nodi ac atal post sgam anghyfreithlon.
Byddwn ni a sefydliadau eraill hefyd yn defnyddio'r wybodaeth a gofnodwyd gan asiantaethau atal twyll o wledydd eraill.
Cwsmeriaid busnes newydd
Os ydych chi'n gwsmer busnes newydd sy'n gwneud cais am gyfrif credyd, efallai y byddwn yn rhoi rhywfaint o'ch data personol i TransUnion International UK Limited, asiantaeth gwirio credyd sy'n darparu gwasanaethau megis gwirio risg credyd a fforddiadwyedd, atal twyll, atal gwyngalchu arian, cadarnhau hunaniaethau ac olrhain dyledion.
Bydd TransUnion yn defnyddio'ch data personol i ddarparu gwasanaethau i ni a'u cleientiaid eraill. Rydym yn defnyddio eu gwasanaethau er mwyn asesu’ch teilyngdod i gael credyd ac addasrwydd cynhyrchion, gwirio pwy ydych chi, rheoli'ch cyfrif, olrhain ac adennill dyledion, ac atal gweithgareddau troseddol megis twyll a gwyngalchu arian. Mae rhagor o wybodaeth am TransUnion a sut maent yn defnyddio ac yn rhannu data personol yn eu rhybudd preifatrwydd yma.
Efallai y byddwn yn rhannu’ch data personol dramor os bydd ei angen arnom ni neu sefydliad arall dramor am unrhyw un o'r rhesymau a nodir uchod. Er enghraifft, os ydych chi'n anfon llythyr neu barsel dramor, efallai y bydd angen i ni rannu'ch data gyda'r cwmni post tramor.
Os ydym yn defnyddio darparwr gwasanaeth neu ddarparwr technoleg wedi'i leoli dramor, efallai y bydd angen i ni rannu’ch data gyda nhw hefyd (er enghraifft, i ddarparu'r cynnyrch neu'r gwasanaeth rydych chi wedi gofyn amdano, i brosesu'ch manylion talu neu i ddarparu gwasanaethau cymorth).
Byddwn yn sicrhau bod eich data personol yn cael ei warchod gan y gyfraith neu o dan gontract sy'n unol â chyfraith y DU.
Dim ond cyhyd ag y mae angen i ni ei ddefnyddio y byddwn yn cadw'ch data. Bydd hyn yn dibynnu ar y cynnyrch neu'r gwasanaeth rydym yn ei ddarparu. Efallai y bydd gofynion cyfreithiol hefyd i ni gadw'ch data am gyfnod penodol o amser.
Mae gennych yr hawliau dilynol mewn perthynas â'ch data personol.
Yr hawl i gael eich hysbysu
Byddwn yn rhoi gwybodaeth i chi am sut rydym yn defnyddio'ch data personol ar yr adeg rydym yn eu casglu gennych chi (er enghraifft, pan ydych yn agor cyfrif neu'n gwneud cais am wasanaeth ar-lein), neu drwy hysbysiadau preifatrwydd fel yr un hwn.
Yr hawl i gyrchu'ch data personol
Mae gennych hawl i gael copi o'ch data personol a manylion ynghylch sut rydym yn eu defnyddio.
Gallwch ofyn am fanylion y data personol sydd gennym amdanoch drwy gysylltu â'n Tîm Hawliau Gwybodaeth a Llywodraethu (information.rights@royalmail.com). Efallai y bydd angen prawf o'ch hunaniaeth arnom. Byddwn hefyd angen i chi ddweud wrthym pa wybodaeth a defnyddiau o'ch data rydych chi am wybod amdanynt (er enghraifft, pa rai o'n gwasanaethau a oedd yn gysylltiedig a phryd y gallem fod wedi defnyddio'r data). Efallai y byddwn hefyd yn gofyn i chi lenwi ffurflen gais ddewisol i'n helpu i gadarnhau pwy ydych chi ac olrhain y wybodaeth sydd ei hangen arnoch.
Yr hawl i gael eich data wedi'u cywiro
Mae gennych hawl i gael eich data wedi'u cywiro os yw'n anghywir neu'n anghyflawn.
Byddwn yn gwneud ein gorau i sicrhau bod eich data personol yn gywir ac yn gyfredol. Fodd bynnag, rydym yn dibynnu arnoch chi i wirio bod rhywfaint o'r wybodaeth sydd gennym amdanoch yn gywir ac yn gyfredol. Rhowch wybod i ni am unrhyw newidiadau i'ch gwybodaeth (er enghraifft, trwy ddiweddaru manylion eich cyfrif ar ein gwefannau).
Yr hawl i wrthwynebu
Mae gennych hawl i wrthwynebu rhai defnyddiau o'ch data personol, megis ar gyfer marchnata (fel y nodir yn adran 4 uchod). Fodd bynnag, os yw'r gyfraith yn caniatáu i ni barhau i ddefnyddio'ch data, gallwn wneud hynny.
Yr hawl i gael eich data wedi’u dileu
Mae gennych hawl i ofyn i ni ddileu eich data personol o'n cofnodion os nad oes rheswm dilys i ni barhau i'w defnyddio. Fodd bynnag, os oes rheswm dilys i ni eu defnyddio, ni fyddwn yn gallu eu dileu.
Yr hawl i gyfyngu ar ddefnydd o'ch data
Mae gennych hawl i gyfyngu ar y defnydd o'ch data personol os:
• rydych chi'n teimlo nad yw'n gywir ac mae angen eu gwirio
• rydych chi'n anghytuno â'n rhesymau cyfreithiol dros ddefnyddio'ch data ac rydych am i ni ailystyried eu defnyddio
• rydym yn defnyddio'ch data yn anghyfreithlon, ond nid ydych am iddynt gael eu dileu, neu
• nid oes angen y data arnom mwyach, ond rydych chi am i ni eu dal at ddibenion hawliad cyfreithiol.
Yr hawl i drosglwyddo'ch data
Mae gennych yr hawl i ofyn i ni drosglwyddo’ch data personol i sefydliad arall. Rhaid i ni wneud hyn os yw’r trosglwyddiad, fel y dywed y gyfraith diogelu data, yn ‘dechnegol ymarferol’.
Mae'r hawl hon ond yn berthnasol i ddata personol rydych chi wedi'u rhoi i ni ac rydym yn eu defnyddio naill ai â 'ch cytundeb neu i gadw at gontract sydd gennym gyda ni.
Yr hawl i dynnu'ch cytundeb yn ôl i ddefnyddio data personol
Os ydych wedi cytuno y gallwn ddefnyddio'ch data personol mewn ffordd benodol, gallwch dynnu'r cytundeb hwnnw yn ôl ar unrhyw adeg.
I gael cymorth yn ymwneud â'ch hawliau data personol, cysylltwch â'n Tîm Hawliau Gwybodaeth a Llywodraethu yn information.rights@royalmail.com.
Mae Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yn darparu manylion llawn am eich hawliau diogelu data. Mae rhagor o wybodaeth ar eu gwefan eu hunain.
Amhariad oherwydd Covid-19
Rydym yn cymryd yr hawliau a nodir uchod o ddifrif iawn a byddwn bob amser yn anelu at ymateb i unrhyw gais gennych chi cyn gynted ag y gallwn. Fodd bynnag, oherwydd y sefyllfa bresennol gyda'r Achos Covid-19, gallai gymryd mwy o amser i ni ddelio â'ch cais. Mae hyn oherwydd bod gennym lai o staff yn y gwaith a heriau newydd i'w diwallu. Byddwch yn amyneddgar gyda ni.
Y ffordd gyflymaf i chi gysylltu â ni yw trwy e-bostio information.rights@royalmail.com. Yna byddwn yn cysylltu â chi trwy e-bost. Efallai y bydd angen i ni gynnal rhai gwiriadau o hyd i gadarnhau pwy ydych chi ac amddiffyn eich gwybodaeth (er enghraifft, trwy ofyn i chi anfon e-bost atom yn brawf o'ch hunaniaeth neu eich ffonio i wirio'ch manylion).
Os oes gennych gwestiwn neu gŵyn am gynhyrchion neu wasanaethau'r Post Brenhinol, cysylltwch â Royal Mail Customer Services.
Os oes gennych gwestiwn neu gŵyn am gynhyrchion neu wasanaethau Parcelforce Worldwide, cysylltwch â Parcelforce Worldwide Customer Services.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am eich data personol, gallwch gysylltu â'n Tîm Hawliau Gwybodaeth a Llywodraethu yn y cyfeiriad dilynol.
Tîm Hawliau Gwybodaeth a Llywodraethu
Royal Mail Group
Pond Street
Sheffield
S98 6HR
E-bost: information.rights@royalmail.com
Ein swyddog diogelu data
Gallwch gysylltu â'n swyddog diogelu data yn:
Royal Mail Group
100 Victoria Embankment
Llundain
EC4Y 0HQ
E-bost: information.rights@royalmail.com
Eich hawl i gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Os credwch nad ydym wedi cyflawni ein dyletswyddau cyfreithiol, gallwch gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yn y cyfeiriad dilynol.
Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
SK9 5AF
Gwefan: www.ico.org.uk
Ffeiliau testun yw cwcis a roddir ar eich cyfrifiadur pan ddefnyddiwch wefan neu ap. Pan ddefnyddiwch ein gwefannau a'n hapiau, byddwn yn gofyn I chi a ydych yn cytuno i ni ddefnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth am:
• y dyfeisiau rydych chi'n eu defnyddio i gyrchu'r gwefannau a'r apiau hynny, a
• sut rydych chi'n defnyddio'r gwefannau a'r apiau hynny (er enghraifft, y tudalennau a'r cynnwys rydych chi wedi edrych arnynt).
Chi sydd i benderfynu a ddylid cytuno I ni ddefnyddio cwcis. I gael rhagor o fanylion am y cwcis rydym yn eu defnyddio, gan gynnwys cwcis sy'n ein helpu i dargedu negeseuon hysbysebu atoch, gwelwch y polisi cwcis ar y wefan neu'r ap rydych yn ei ddefnyddio.
Os ydych chi yn yr Undeb Ewropeaidd ac yr hoffech gysylltu â'n cynrychiolydd yno, eu henw a'u cyfeiriad yw:
General Logistics Solutions B.V.
Breguetlaan 28-30
1438 BC Oude Meer
Netherlands.
13. Newidiadau i'r hysbysiad preifatrwydd hwn
Byddwn yn adolygu ein hysbysiad preifatrwydd yn rheolaidd ac yn postio unrhyw ddiweddariadau ar y dudalen we hon. Diweddarwyd yr hysbysiad preifatrwydd hwn ddiwethaf ym mis Rhagfyr 2020.
Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn hefyd ar gael yn Gymraeg, Sbaeneg, Eidaleg, Ffrangeg, Pwyleg, Almaeneg ac Iseldireg. Fodd bynnag, dim ond y fersiwn Saesneg yw ein rhybudd preifatrwydd gwirioneddol. Diweddarwyd y cyfieithiadau ddiwethaf ym mis Tachwedd 2019.