Ydy’r adeilad yn newydd?
Os mai adeilad newydd yw’r annedd ydych yn chwilio amdano (neu er enghraifft tŷ sy’n ddiweddar wedi ei droi’n fflatiau), efallai na fydd y cod post wedi'i ychwanegu at ein cronfa ddata eto. Os nad yw’ch cyfeiriad wedi ei restru a fyddwch gystal â gadael i ni wybod. Mi geisiwn gywiro hyn cyn gynted ag y gallwn.
Os nad yw’r adeilad yn newydd ac ‘rydych yn dal i fethu dod o hyd i’r cyfeiriad neu’r cod post ydych yn chwilio amdano, ‘rydym yn argymell:
- Gwirio eich sillafu ac ychwanegu cymaint o fanylion a sydd bosib yn ymwneud â’r cyfeiriad er mwyn ceiso am ganlyniadau gwell.
- Os yw’r cyfeiriad ydych yn chwilio amdano yn defnyddio enw adeilad (e.e. ‘Media House’ neu ‘Seaview Cottage’) yn hytrach na chyfeiriad stryd, efallai nad ydym yn gyfarwydd â’r enw. Ceisiwch chwilio am y cyfeiriad stryd os ydych yn ei wybod.
- Peidiwch a phoeni am dalfyriadau – ‘rydym yn derbyn talfyriadau mwyaf cyffredin cyfeiriadu (e.e. ‘Rd’, ‘St’, ‘Ave’).
Os ydych yn parhau i fethu gweld y cyfeiriad ydych yn edrych amdano, a fyddwch gystal â rhoi gwybod i ni yma.
Mwy nag un fersiwn o’r un cyfeiriad
Gallasai hyn ddigwydd weithiau pan fod enw adeilad yn hytrach na rhif i gyfeiriad, neu bod ganddo’r ddau. Gellir ddefnyddio unrhyw un i gyfeirio’r post, ond yn gyffredinol, mae’n well defnyddio rhif yr annedd yn hytrach nac enw.
Mae hefyd adegau pan y gallech weld mwy nac un canlyniad ar gyfer cyfeiriad unigol. er engraifft tŷ sydd wedi ei droi’n fflatiau, ble mae’r post yn cael ei ddosbarthu i un drws ffrynt sy’n cael ei rannu. Yn yr achosion hyn ‘rydym yn dangos prif enw’r annedd ac enw’r stryd, ac yna rhif yr annedd gyda rhif y fflat unigol. Er engraifft, efallai y bydd tri canlyniad; 3 High Street; 3A High Street; a 3B High Street, neu 3 High Street; Ground Floor Flat, 3 High Street; a First Floor Flat, 3 High Street.
Problemau technegol?
Os na allwch weld unrhyw ganlyniadau, byddwn yn argymell eich bod yn defnyddio porwr gwahanol – fel arfer, mae Google Chrome ac Internet Explorer 10 neu uwch yn gweithio’n well hefo’r Cyrchwr Codau Post. Byddwch yn gallu gweld y canlyniadau ar fap wrth ddefnyddio Chrome, Safari, Firefox, IE 10 neu uwch (nid yw’n gweithio gydag IE 8 neu 9).