Ar hyn o bryd nid yw lleoliad y cyfeiriad ar gael ar gyfer y cyfeiriad newydd hwn a bydd yn cael ei arddangos unwaith y bydd ein mapiau wedi'u diweddaru. Byddwch yn ymwybodol nad yw ein mapiau yn arddangos lleoliadau BFPO.
Prynu post ar-lein
Gyda Click & Drop gallwch dalu am stampiau postio ar-lein ac yna argraffu eich label gartref, neu gallwn ei argraffu ar eich cyfer mewn Man Gwasanaethau Cwsmeriaid.
Nid yw’r gwasanaeth hwn ar gael ar ddydd Sul na gwyliau banc. Os na allwch gysylltu, gallai hyn fod am fod eich ffôn wedi ei gwahardd rhag ffonio rhifau 090. Cysylltwch â darparwr eich gwasanaeth i ofyn i’r gwaharddiad hwn gael ei godi.
Eich dewisiadau cwcis ar gyfer y Post Brenhinol
Rydym yn defnyddio cwcis i’ch helpu i gael y profiad gorau posibl ar ein safle:
1. Mae cwcis “cwbl angenrheidiol” ac “ymarferol” yn cynorthwyo nodweddion llywio, chwilio, mewngofnodi, sgwrsio’n fyw a basgedi siopa.
2. Mae cwcis “perfformiad” yn helpu i ddadansoddi perfformiad y safle.
3. Mae cwcis “targedu” yn ein helpu i bersonoli cynnwys a theilwra hysbysebion ar eich cyfer chi.
Trwy glicio “Derbyn” rydych yn cytuno i’n defnydd ni o’r cwcis fel y nodir yn ein Polisi Cwcis. I alluogi neu analluogi mathau penodol o’r cwcis, cliciwch “Gadael i mi ddewis”.
Beth yw cyfeiriadau alias?
Mae'r cyfeiriadau hyn yn cynnwys ' alias ' a all adlewyrchu sut y cafodd yr eiddo ei adnabod yn hanesyddol neu sy'n cynnwys enw Tŷ, ardal neu wybodaeth am Sir nad oes ei hangen at ddibenion post. Fodd bynnag, gallwch ddewis defnyddio pa bynnag fersiwn o'r cyfeiriad sy'n well gennych lle mae dewisiadau eraill yn cael eu dangos.
Rwy’n methu dod o hyd i’m cyfeiriad ar y Cyrchwr Codau Post
Ydy’r adeilad yn newydd?
Os mai adeilad newydd yw’r annedd ydych yn chwilio amdano (neu er enghraifft tŷ sy’n ddiweddar wedi ei droi’n fflatiau), efallai na fydd y cod post wedi'i ychwanegu at ein cronfa ddata eto. Os nad yw’ch cyfeiriad wedi ei restru a fyddwch gystal â gadael i ni wybodOpens in a new window. Mi geisiwn gywiro hyn cyn gynted ag y gallwn.
Os nad yw’r adeilad yn newydd ac ‘rydych yn dal i fethu dod o hyd i’r cyfeiriad neu’r cod post ydych yn chwilio amdano, ‘rydym yn argymell:
Gwirio eich sillafu ac ychwanegu cymaint o fanylion a sydd bosib yn ymwneud â’r cyfeiriad er mwyn ceiso am ganlyniadau gwell.
Os yw’r cyfeiriad ydych yn chwilio amdano yn defnyddio enw adeilad (e.e. ‘Media House’ neu ‘Seaview Cottage’) yn hytrach na chyfeiriad stryd, efallai nad ydym yn gyfarwydd â’r enw. Ceisiwch chwilio am y cyfeiriad stryd os ydych yn ei wybod.
Peidiwch a phoeni am dalfyriadau – ‘rydym yn derbyn talfyriadau mwyaf cyffredin cyfeiriadu (e.e. ‘Rd’, ‘St’, ‘Ave’).
Gallasai hyn ddigwydd weithiau pan fod enw adeilad yn hytrach na rhif i gyfeiriad, neu bod ganddo’r ddau. Gellir ddefnyddio unrhyw un i gyfeirio’r post, ond yn gyffredinol, mae’n well defnyddio rhif yr annedd yn hytrach nac enw.
Mae hefyd adegau pan y gallech weld mwy nac un canlyniad ar gyfer cyfeiriad unigol. er engraifft tŷ sydd wedi ei droi’n fflatiau, ble mae’r post yn cael ei ddosbarthu i un drws ffrynt sy’n cael ei rannu. Yn yr achosion hyn ‘rydym yn dangos prif enw’r annedd ac enw’r stryd, ac yna rhif yr annedd gyda rhif y fflat unigol. Er engraifft, efallai y bydd tri canlyniad; 3 High Street; 3A High Street; a 3B High Street, neu 3 High Street; Ground Floor Flat, 3 High Street; a First Floor Flat, 3 High Street.
Problemau technegol?
Os na allwch weld unrhyw ganlyniadau, byddwn yn argymell eich bod yn defnyddio porwr gwahanol – fel arfer, mae Google Chrome ac Internet Explorer 10 neu uwch yn gweithio’n well hefo’r Cyrchwr Codau Post. Byddwch yn gallu gweld y canlyniadau ar fap wrth ddefnyddio Chrome, Safari, Firefox, IE 10 neu uwch (nid yw’n gweithio gydag IE 8 neu 9).
Sut y gallaf ddiweddaru fy nghyfeiriad?
Os ydych wedi sylwi fod rhan neu gyfan eich cyfeiriad yn edrych yn anghywir yn y Cyrchwr Codau Post, cysylltwch a ni a gadewch i ni wybod os gwelwch yn dda.
Mae’n gwybodaeth ar gyfeiriadau a chodau post yn cael ei gynnal yn y Ffeil Cyfeiriadau Post (PAF®). Mae PAF yn cael ei rheoleiddio yn y DU gan Ofcom.
Mae’r newidiadau allwn wneud i’ch cyfeiriad yn cynnwys:
Cyfeiriad anghywir neu anghyflawn
Cyfeiriad sydd wedi’i adael allan
Enw busnes
Anheddau sydd wedi eu troi yn breswylfeydd ar wahan (e.e. troi tŷ’n fflatiau)
Nodir: os dymunir gwneud newidiad i enw annedd neu enw stryd, a fyddwch gystal â chysylltu â’ch Awdurdod Lleol.